Loading

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BAE CAERDYDD 4-11 AWST 2018

Canllaw i Rieni Caerdydd

Map y Maes

Steddfod yn y Ddinas!

Bae Caerdydd yw Maes yr Eisteddfod eleni.

Mae mynediad AM DDIM i bawb i'r maes.

Cewch grwydro'r maes o 10am ddydd Sadwrn 4 Awst hyd nos Sadwrn 11 Awst drwy'r dydd a'r nos gyda'ch teulu AM DDIM. Mae cannoedd o ddigwyddiadau a pherfformiadau ar hyd y maes am ddim.

Dyma'r cyfle perffaith i deuluoedd Caerdydd elwa'n llawn o'r ffaith fod yr Eisteddfod mor agos i gartref. Y llynedd roedd yn rhaid teithio 200 milltir i'r Eisteddfod yn Ynys Môn, felly gwnewch yn fawr o'r holl arlwy a'r holl weithgareddau Cymraeg a Chymreig sydd ar gael am ddim ar stepen eich drws am wythnos gron. Dyma gyfle i blant a phobl ifainc Caerdydd brofi bwrlwm a gwefr ein prifwyl, cymdeithasu yn y Gymraeg a phrofi rhychwant eang o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr Eglwys Norwyaidd - cartref cerddoriaeth glasurol #Encore

Ble mae popeth?

Canolfan y Mileniwm = Y Pafiliwn*

Roald Dahl Plass = Llwyfan y Maes

Y Senedd = Y Lle Celf

Ardal Crefft yn y Bae = Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ardal Crefft yn y Bae = Gwyl Llên Plant

Ardal Crefft yn y Bae = Llannerch Gudd

Adeilad y Pierhead = Shwd Mae Caerdydd (Pabell y Dysgwyr)

Yr Eglwys Norwyaidd = #Encore - Cerddoriaeth Glasurol

Ardal yr Eglwys Norwyaidd = Bar Syched, Caffi Maes B

Ardal yr Eglwys Norwyaidd = Ty Gwerin

Theatr Weston, CMC = Y Babell Lên*

Canolfan y Mileniwm = Pentref Drama*

Dr Who = Gigs Maes B* (i bobl ifainc gyda'r hwyr)

* Mae angen talu am fand garddwrn er mwyn cyrraedd y llefydd a nodwyd gyda seren* ond mae popeth arall AM DDIM!

Bydd gigs Maes B yn hen arddangosfa Dr Who
Popeth yn newydd ...

Os nad ydych chi wedi bod i Eisteddfod Genedlaethol o'r blaen, peidiwch â phoeni. Mae digon yma i ddifyrru teuluoedd am ddyddiau.

Ac eleni, am y tro cyntaf, bydd mynediad i'r Maes am ddim i bawb. Gyda stondinau ac arddangosfeydd a llwyth o weithgareddau, bydd yma rywbeth i bawb o bob oedran.

Ym Mae Caerdydd, mewn adeiladau sefydlog = dim mwd chwaith!

Hefyd bydd ...

Pentref Bwyd
Dros 150 o stondinau ac arddangosfeydd
Theatr Stryd
Oriel Gelf yn y Senedd
Cerddoriaeth Gymraeg o bob math yn fyw ar hyd y Bae
Teithiau Tywys am 11am a 2pm bob dydd
Darlithoedd, trafodaethau a mwy ...

Cyrraedd yr Eisteddfod yn y Bae

Bydd rhai hewlydd yn y Bae ar gau, ond bydd Bysus Caerdydd yn rhedeg yn gyson ac yn stopio o flaen y Travelodge yn y Bae (cefn canolfan y sinema / bowlio).

Cod Post y Maes yw CF10 5AL

Bysus

Mae gwasanaeth bws gwennol y Baycar (gwasanaeth rhif 6) yn rhedeg o Orsaf Canolog Caerdydd. Mae’r Baycar yn rhedeg bob 10 munud. *** Mae angen arian mân ar gyfer bysus Caerdydd.

Ceir manylion llawn am deithio i'r Bae yn ystod wythnos yr Eisteddfod ar wefan Bysus Caerdydd. Cliciwch isod:

Trên

Gallwch hefyd ddal y trên i orsaf Bae Caerdydd.

Parcio yn y Bae

Q-Park - lle i 1,237 car - Ar agor 24 awr - Stryd Pierhead CF10 4PH www.q-park.co.uk

Mermaid Quay - lle i 380 car - Ar agor 24 awr www.mermaidquay.co.uk i gael prisiau.

Havannah Street - lle i 250 car - rhwng Techniquest a Gwesty Dewi Sant.

Ar y penwythnosau, neu gyda'r hwyr (ar ôl oriau swyddfa), gellir parcio yn Neuadd y Sir yn y Bae.

Parcio a Theithio

Os ydych chi'n byw ar gyrion Caerdydd, neu yng ngorllewin y ddinas, efallai mai Parcio a Theithio yw'r ateb i chi. Dewch lawr o gyffordd 33 yr M4 ar hyd yr A4232. Byddwch yn parcio yn Lecwydd, sydd tua 3.5 milltir o'r maes.

*** Noder nad yw'r gwasanaeth Parcio a Theithio'n rhedeg ar y penwythnosau - ddim ar y dydd Sadwrn na'r dydd Sul cyntaf, nac ar y dydd Sadwrn olaf.***

Cost parcio a theithio yw £8 ymlaen llaw, neu £10 (arian parod yn unig) ar y dydd.

Bydd y safle'n agor am 6:30am. Bydd y bws cyntaf yn gadael am 07:00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu ar Heol Hemingway yn y Bae am ganol nos, gyda’r maes parcio'n cau am 00:30am.

Tacsi

Os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd ei hunan, a bod 3 neu 4 ohonoch angen cyrraedd y Bae, efallai y byddai'n rhatach ac yn haws i chi gael tacsi i'r Bae na'r opsiynau uchod! Mae ranc ar bwys Tesco, nepell o Ganolfan y Mileniwm.

Capital Cabs 02920 777 777 www.capitalcabs.co.uk

Cardiff Cabs 02920 90 90 90 www.cardiffcabs.com

Cardiff Taxi 02921 99 1234 www.cardifftaxi.co.uk

City Taxis Cardiff 02920 400 400 www.citytaxiscardiff.co.uk

Premier Taxis 02920 555 555 www.premiertaxis.net

Dragon Taxis 02920 333 333 www.dragontaxis.com

Bay Cars 02920 350 350 www.bay-cars.com

Rhai Uchafbwyntiau ...

Pwrpas y rhestrau hyn yw i roi syniad i deuluoedd o'r mathau o bethau sy'n digwydd am ddim yn yr Eisteddfod. Detholiad sydd yma. Mae llawer mwy o weithgareddau ar gael!

Dydd Sadwrn 4 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga - Ty Gwerin

10:30 Dysgwch sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Taith Tywys o amgylch y Maes. Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch.

11:00am Creu Hetiau - Pierhead

11:00am Perfformiad ar y ffidil gan Charlie Lovell-Jones - Yr Eglwys Norwyaidd

11:00am Sesiwn Werin: Clera - Ty Gwerin

12:00pm Gweithdy Celf y Fôr-forwyn Fach - Gwyl Llên Plant

12:00pm Clocs Ffit: Gweithdy Clocsio gyda Tudur Phillips - Pierhead

12:00pm Sipsi Gallois - Ty Gwerin

12:30pm Tegid Rhys - Caffi Maes B

1:00pm Grug - Ty Gwerin

1:30pm Wigwam - Caffi Maes B

2:00pm Cyw a'i Ffrindiau - Llwyfan y Maes

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Gweithdy Llên Lego - Gwyl Llên Plant

2:30pm Plant Duw - Caffi Maes B

3:00pm Mabli Tudur a'r Band - Llwyfan y Maes

3:00pm Dathlu 10 mlynedd o Cyw - Sinemaes

3:00 Sesiwn gyda Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru - Gwyl Llên Plant

3:30pm Y Sybs - Caffi Maes B

3:45pm Delwyn Siôn - Ty Gwerin

4:00pm Plant Duw - Llwyfan y Maes

4:00pm Amser Stori - Peppa a'i Hesgidiau Aur - Gwyl Llên Plant

4:30pm Dathlu Sali Mali - Sinemaes

4:30pm The Gentle Good - Caffi Maes B

5:00pm Rifieros - Llwyfan y Maes

5:00pm #Caerdydd50 - Dathlu 50 mlynedd o ddawnsio gwerin yng Nghaerdydd - Ty Gwerin

5:30pm Sesiwn Gomedi - Caffi Maes B

6:15pm Hyll - Llwyfan y Maes

7:30pm Cadno - Llwyfan y Maes

9:00pm Crumblowers - Llwyfan y Maes

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Sul 5 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga - Ty Gwerin

10:30am Y Gymanfa Ganu - Pafiliwn (pawb i'w seddau erbyn 10am)

10:30 Dysgwch sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Taith Tywys o amgylch y Maes - dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

11:00am Sesiwn Werin: Clera - Ty Gwerin

11:00am Amser Stori - Pierhead

11:00am Datganiad Telynau gan fyfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama - Eglwys Norwyaidd

12:00pm Gweithdy Celf y Tylwyth Teg - Gwyl Llên Plant

12:30pm Art Bandini - Caffi Maes B

1:00pm Jamborî Ffrindiau'r Môr ar gyfer plant meithrin - Llwyfan y Maes

1:00pm Dysgu Cymraeg yn y Ddinas - Pierhead

1:30pm Eädyth - Caffi Maes B

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Wonderbrass - Llwyfan y Maes

2:00pm Cyfres Wenfro: Gweithdy Tipyn o Gês - Gwyl Llên Plant

2:30pm Casset - Caffi Maes B

3:00pm Gweithdy Celf y Môr-ladron - Gwyl Llên Plant

3:00pm Cerddorfa Ukelele Cymru - Llwyfan y Maes

3:00pm Lawnsiad CD Steffan Rhys Hughes - Eglwys Norwyaidd

3:10pm Dathlu'r miliwn o ddefnyddwyr ar Duolingo - Pierhead

3:30pm Hyll - Caffi Maes B

3:45pm Ar Log - Ty Gwerin

4:00pm Band Jazz Rhys Taylor - Llwyfan y Maes

4:00pm Sesiwn Stori: Stori Fawr Peppa Fach - Gwyl Llên Plant

4:30pm Rifieros - Caffi Maes B

5:00pm Kookamunga - Llwyfan y Maes

5:30pm Achlysurol - Caffi Maes B

6:15pm Brigyn - Ty Gwerin

6:15pm Mellt - Llwyfan y Maes

7:30pm Iwan Huws - Ty Gwerin

9:00pm Al Lewis - Ty Gwerin

9:00pm Twmpath LHDT cyntaf Caerdydd, Cymru a'r byd! £5 - Ty Portland, Stryd Biwt

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Llun 6 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga - Ty Gwerin

10:30am Dysgu sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Seremoni'r Orsedd - Llwyfan y Maes

11:00am Gweithdy Celf: Tylwyth Teg - Pierhead

11:00am Gweithdy Clocsio i Blant - Ty Gwerin

11:00am Yoga Babis - Gwyl Llên Plant

12:00pm Gweithdy Celf y Tylwyth Teg - Gwyl Llên Plant

12:00pm Sesiwn Werin i Blant - Ty Gwerin

12:30pm Aled Rheon - Caffi Maes B

12:30pm Pysgod a Phlastig - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Comedi @ Gwyl Llên Plant: Gweithdy Sgwennu Jôcs

1:00pm Band y Musikverein Stuttgart-Hofen - Llwyfan y Maes

1:00pm Straeon a Chaneuon o Forgannwg: Guto Dafis - Ty Gwerin

1:00pm Hanes yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd: Dylan Foster Evans - Pierhead

1:30pm Mabli Tudur - Caffi Maes B

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Helfa Drysor Sherlock Holmes - Gwyl Llên Plant

2:00pm Mei Gwynedd - Pierhead

2:00pm Achlysurol - Llwyfan y Maes

2:30pm Sesiwn Gomedi - Caffi Maes B

3:00pm Yr Oria - Llwyfan y Maes

3:00pm Datganiad Piano gan fyfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama - Eglwys Norwyaidd

3:30pm Bethany Celyn - Caffi Maes B

3:45pm Heather Jones - Ty Gwerin

4:00pm I Fight Lions - Llwyfan y Maes

4:00pm Gweithdy Celf y Môr-ladron - Gwyl Llên Plant

4:00pm Comedi Gwyddoniaeth - Pentref Gwyddoniaeth

4:30pm Jacob Elwy - Caffi Maes B

4:30pm Y Coroni - Pafiliwn (angen talu)

4:30pm Gwylio Seremoni'r Coroni - Pierhead (am ddim)

5:00pm Iwan Hughes - Llwyfan y Maes

5:00pm Amser Stori: Matilda gyda Gareth Potter - Gwyl Llên Plant

5:00pm Dangos a Dweud: Caerdydd Creadigol - Ty Gwerin

5:30pm Geraint Løvgreen - Pierhead

5:30pm Cadno - Caffi Maes B

6:15pm Mei Gwynedd - Llwyfan y Maes

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Mawrth 7 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga @ Maes - Ty Gwerin

10:30am Dysgu sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Datganiad Chwythbrennau gan fyfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama - Eglwys Norwyaidd

11:00am Cymeriadau Difyr gyda Manon Steffan Ros - Gwyl Llên Plant

11:00am Clocs Ffit gyda Tudur Phillips - Ty Gwerin

12:00pm Dawnsio Gwerin - Llwyfan y Maes

12:00pm Hanes David Davies - Gwyl Llên Plant

12:30pm Iwan Huws - Caffi Maes B

12:30pm Pysgod a Phlastig - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Parti Lawnsio Miss Prydderch gyda Mererid Hopwood - Gwyl Llên Plant

1:00pm Sioe Marconi - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Cerddorion Glantaf - Llwyfan y Maes

1:30pm Glain Rhys - Caffi Maes B

1:30pm Dilyn Dylan: Taith ar drywydd yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd gyda Dylan Foster Evans - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Yoga i Blant - Gwyl Llên Plant

2:00pm Alys Williams - Pierhead

2:00pm Geraint Løvgreen - Llwyfan y Maes

2:30pm Sesiwn Gomedi - Caffi Maes B

3:00pm Gweithdy Llên Lego

3:00pm Ail Symudiad - Llwyfan y Maes

3:00pm Dathlu Bywyd a Gwaith Morfydd Llwyn Owen - Eglwys Norwyaidd

3:30pm Gwilym - Caffi Maes B

3:45pm Blodau Gwylltion - Ty Gwerin

4:00pm Alys Williams - Llwyfan y Maes

4:00pm Creu Cymeriadau Cartwns a Jôcs Ofnadwy gyda Mellten a Huw Aaron - Gwyl Llên Plant

4:30pm Yr Oria - Caffi Maes B

4:30pm Gareth Bonello - Pierhead

5:00pm Alun Gaffey - Llwyfan y Maes

5:00pm Eleri Llwyd - Ty Gwerin

5:00pm Amser Stori Yr CMM (The BFG) gyda Gareth Potter - Gwyl Llên Plant

5:30pm Bod yn drawsryweddol yng Nghymru: Holi pobl ifainc (Caffi Maes B)

6:00pm 50 Shêd o Lleucu Llwyd: Rhys Taylor a'i ffrindiau - Eglwys Norwyaidd

6:15pm Bob Delyn - Llwyfan y Maes

6:15pm Cowbois Rhos Botwnnog - Ty Gwerin

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Mercher 8 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:00am Yoga @ Maes - Ty Gwerin

10:30am Dysgu sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Allen ni fyw ar y blaned Mawrth? - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Cystadleuaeth Props ar y pryd - Ty Gwerin

11:00am Yoga Babis - Gwyl Llên Plant

12:00pm Dawnsio Gwerin - Llwyfan y Maes

12:00pm Bwch yng nghwmni Anni Llyn - Gwyl Llên Plant

12:30pm Papur Wal - Caffi Maes B

12:30pm Pysgod Phlastig - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Sioe Marconi - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Gwenan Gibbard & Alejandro Jones - Ty Gwerin

1:00pm Côr Canna - Llwyfan y Maes

1:00pm Comedi @ Gwyl Llên Plant

1:30pm I Fight Lions - Caffi Maes B

1:30pm Taith y Chwedlau: Taith Antur i'r Teulu Cyfan - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

2:00pm Cyw a'i Ffrindiau - Llwyfan y Maes

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Sophie a'r Drws Tylwyth Teg: Gweithdy a Sesiwn Stori - Gwyl Llên Plant

2:30pm Mellt - Caffi Maes B

2:30pm Taith y Chwedlau: Taith Antur i'r Teulu Cyfan - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

3:00pm Alffa - Llwyfan y Maes

3:00pm Straeon Nos Da i bob Rebel o Ferch: Lowri Morgan - Gwyl Llên Plant

3:30pm Adwaith - Caffi Maes B

3:30pm Taith y Chwedlau: Taith Antur i'r Teulu Cyfan - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

3:45pm Gareth Bonello - Ty Gwerin

4:00pm Maes y Mes: Nia Gruffydd - Gwyl Llên Plant

Brwydr y Bandiau - Llwyfan y Maes:

  • 4:00pm Elis Derby
  • 4:40pm Anorac
  • 5:20pm Wigwam
  • 6:00pm Miskin
  • 6:40pm Y Sybs
  • 7:20pm Carma

4:30pm Alys Williams - Caffi Maes B

4:30pm Comedi Gwyddoniaeth - Pentref Gwyddoniaeth

5:00pm Amser Stori: Helfa Fawr y Deinosoriaid gydag Anwen Carlisle - Gwyl Llên Plant

5:00pm Parti'r Efail - Ty Gwerin

6:00pm Cabarela - Caffi Maes B

6:15pm Lowri Evans - Ty Gwerin

7:30pm Glain Rhys - Ty Gwerin

8:00pm DJs - Caffi Maes B

9:00pm Yr Eira - Llwyfan y Maes

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Iau 9 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga @ Maes - Ty Gwerin

10:30am Dysgu sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Teithio'n ôl i'r Oesoedd Canol gyda Mererid Hopwood - Gwyl Llên Plant

11:00am Criw Brwd: Gweithdy Drama 15+ Caffi'r Theatrau

11:00am Dosbarth Meistr Dawnsio Gwerin: Dawnsfeydd Ffair Nantgarw - Ty Gwerin

11:45am Seremoni Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg i Dr Hefin Jones - Pafiliwn (angen band garddwrn i fynd mewn)

12:00pm Dawnsio Gwerin - Llwyfan y Maes

12:00pm Sesiwn Werin: Clera - Ty Gwerin

12:00pm Deian a Loli a'r Bai ar Gam: Gweithdy Creu Cymeriad - Gwyl Llên Plant

12:00pm Gweithdy Creu Gwenyn - Caffi'r Theatrau

12:30pm Dilyn Dylan: Taith ar drywydd yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd gyda Dylan Foster Evans - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

12:30pm Cowbois Rhos Botwnnog - Caffi Maes B

12:30pm Pysgod a Phlastig - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Gwyneth Glyn - Ty Gwerin

1:00pm Academi Berfformio Caerdydd - plant o ysgolion ledled y ddinas - Llwyfan y Maes

1:00pm Na, Nel! Un Tro ... Meleri Wyn James - Gwyl Llên Plant

1:30pm Sesiwn Gomedi: The Welsh Whisperer - Caffi Maes B

2:00pm Candelas - Pierhead

2:00pm Cyw a'i Ffrindiau - Llwyfan y Maes

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Yoga i Blant - Gwyl Llên Plant

2:15pm Ymryson Clocsio - Ty Gwerin

2:30pm Alffa - Caffi Maes B

3:00pm Ffracas - Llwyfan y Maes

3:00pm Gweithdy creu pypedau bysedd i blant oed cynradd - Caffi'r Theatrau

3:00pm Sgrap y Rapwyr gydag Aneirin Karadog - Gwyl Llên Plant

3:30pm Dewch i Ganu! Opera Cenedlaethol Cymru - Eglwys Norwyaidd

3:10pm Croesawu Dysgwr y Flwyddyn - Pierhead

3:30pm CHROMA - Caffi Maes B

3:30pm Gweithdy Animeiddio - Sinemaes

4:00pm Gwilym - Llwyfan y Maes

4:00pm Helfa Drysor Sherlock Holmes - Gwyl Llên Plant

4:00pm Sesiwn Gomedi - Llannerch Gudd

4:30pm Los Blancos - Caffi Maes B

4:30pm Cowbois Rhos Botwnnog - Pierhead

5:00pm Argrph - Llwyfan y Maes

5:00pm Amser Stori: Syr Deilen Lili gydag Aneirin Karadog - Gwyl Llên Plant

5:00pm Y Gymanfa Gerdd Dant - Ty Gwerin

5:30pm Candelas - Caffi Maes B

5:30pm Y Stomp Fawr Werin (anaddas i blant) - Ty Gwerin

6:15pm Cowbois Rhos Botwnnog - Llwyfan y Maes

6:30pm A Oes Hansh? - Caffi Maes B

7:30pm Y Cledrau - Llwyfan y Maes

9:00pm Al Lewis Band - Llwyfan y Maes

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Gwener 10 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga @ Maes - Ty Gwerin

10:30am Dysgu sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Seremoni Urddo aelodau newydd i'r Orsedd, gan gynnwys Jamie Roberts y chwaraewr rygbi - Llwyfan y Maes

11:00am Amser Stori: Stori Fawr Peppa Fach - Pierhead

11:00am Yoga Babis - Gwyl Llên Plant

11:00am Dawnswyr Blaenafon - Ty Gwerin

12:00pm Clocs Ffit gyda Tudur Phillips - Pierhead

12:00pm Gwilym Bowen Rhys - Ty Gwerin

12:00pm Slot y Selar: Sgiliau Sgwennu Zine - Gwyl Llên Plant

12:30pm Crawia - Caffi Maes B

12:30pm Pysgod a Phlastig - Pentref Gwyddoniaeth

1:00pm Cerddorfa Ukelele Cymru - Llwyfan y Maes

1:00pm Patrobas - Ty Gwerin

1:00pm Comedi @ Gwyl Llên Plant: Gweithdy Sgwennu Jôcs

1:00pm Cofiwch ddweud "Diolch" am yr iaith Gymraeg. Trafodaeth gyda cherddorion: Owen Powell (Catatonia), Katie Hall (CHROMA), George Amor (Omaloma) a Hollie Singer (Adwaith) - Pierhead

1:30pm Bitw - Caffi Maes B

1:30pm Taith y Chwedlau: Taith Antur i'r Teulu Cyfan - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

2:00pm Cyw a'i Ffrindiau - Llwyfan y Maes

2:00pm Omaloma - Pierhead

2:00pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:00pm Jo a Môr-ladron y Drws Antur: Gweithdy a Sesiwn Stori - Gwyl Llên Plant

2:15pm Cymru a Bryniau Khasia mewn Alawon - Gareth Bonello - Ty Gwerin

2:30pm Lastigband - Caffi Maes B

2:30pm Taith y Chwedlau: Taith Antur i'r Teulu Cyfan - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

3:00pm Serol Serol - Llwyfan y Maes

3:00pm Dangosiad a Sesiwn Holi Pobol y Cwm - Sinemaes

3:00pm Datganiad Llais Myfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama - Eglwys Norwyaidd

3:00pm Cwis Cymru ar y Map - Gwyl Llên Plant

3:30pm Cpt. Smith - Caffi Maes B

3:30pm Taith y Chwedlau: Taith Antur i'r Teulu Cyfan - Dechrau o'r Cwt Gwybodaeth Coch

3:45pm Twm Morys a Gwyneth Glyn - Ty Gwerin

4:00pm Oshh - Llwyfan y Maes

4:00pm Hanes David Davies - Gwyl Llên Plant

4:30pm Seremoni'r Cadeirio - Pafiliwn (angen talu)

4:30pm Gwylio Seremoni'r Cadeirio ar y sgrîn - Pierhead (am ddim)

4:30pm Omaloma - Caffi Maes B

4:30pm Dathlu Sali Mali - Sinemaes

5:00pm Adwaith - Llwyfan y Maes

5:00pm Twmpath Tawel Owain Glyndwr - Ty Gwerin

5:00pm Amser Stori: Y Teigr a ddaeth i de, gydag Anwen Carlisle - Gwyl Llên Plant

5:30pm Sesiwn Gomedi - Caffi Maes B

5:30pm Y Gerddorfa Ukelele - Pierhead

6:15pm HMS Morris - Llwyfan y Maes

6:30pm Pasta Hull -v- Tri Hwr Doeth - Caffi Maes B

7:00pm Meic Stevens - Ty Gwerin

7:30pm Yr Ods - Llwyfan y Maes

8:00pm Gai Toms a'r Band - Ty Gwerin

9:00pm Diffiniad - Llwyfan y Maes

10:30pm Carnifal y Môr - Gorymdaith liwgar a sioe ddwr fawreddog yn y Bae

Dydd Sadwrn 11 Awst

Manylion llawn yn y Rhaglen Swyddogol ac ar wefan yr Eisteddfod

Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys ...

9:30am Yoga @ Maes - Ty Gwerin

10:30am Dysgu sut i adeiladu a hwylio cwch - Pentref Gwyddoniaeth

11:00am Amser Stori: Peppa a'i Hesgidiau Aur - Pierhead

11:00am Dathlu 10 mlynedd o Cyw - Sinemaes

12:00pm Glain Rhys a'r Band - Llwyfan y Maes

12:00pm Gweithdy Dawns Poptastig - Pierhead

12:00pm Gweithdy Ffasiwn Begw Haf - Gwyl Llên Plant

12:30pm Ffracas - Caffi Maes B

1:00pm Papur Wal - Llwyfan y Maes

1:00pm Gwahanol Deuluoedd: Yr Un Cariad (Stonewall Cymru) - Pierhead

1:00pm Yoga i Blant - Gwyl Llên Plant

1:00pm Picnic 4 a 6: Plu, Llyr Gwyn Lewis a Iestyn Tyne - Llannerch Gudd

1:00pm Cystadleuaeth Cân Werin - Ty Gwerin

1:30pm Pys Melyn - Caffi Maes B

2:00pm Bitw - Llwyfan y Maes

2:00pm Mellt - Pierhead

2:00pm Helfa Drysor Sherlock Holmes - Gwyl Llên Plant

2:15pm Elin - Ty Gwerin

2:30pm Sioe Wyddoniaeth Wych - Pentref Gwyddoniaeth

2:30pm Y Cledrau - Caffi Maes B

2:30pm Dal: Yma / Nawr - Dangosiad a thrafodaeth am y ffilm hon o 2002 am farddoniaeth Gymraeg ar hyd yr oesoedd - Sinemaes

3:00pm Cadno - Llwyfan y Maes

3:10pm Taith yr Iaith: Mewn Cymeriad - Pierhead

3:30pm Sesiwn Gomedi - Caffi Maes B

3:45pm Delyth ac Angharad - Ty Gwerin

4:00pm Mellt - Llwyfan y Maes

4:00pm Amser Stori: Na, Nel gyda Meleri Wyn James - Gwyl Llên Plant

4:30pm Serol Serol - Caffi Maes B

4:30pm Adwaith - Pierhead

5:00pm Los Blancos - Llwyfan y Maes

5:00pm Band Nantgarw - Ty Gwerin

5:30pm HMS Morris - Caffi Maes B

6:15pm Omaloma - Llwyfan y Maes

6:15pm Bob Delyn - Ty Gwerin

6:30pm Reu 26 - Caffi Maes B

7:30pm Lleden - Llwyfan y Maes

9:00pm Candelas - Llwyfan y Maes

Lleoliadau'r Maes

Yr ardal uwchben Canolfan y Mileniwm - Dyma ble fydd y Pentref Gwyddoniaeth, y Llannerch Gudd a'r Gwyl Llên Plant

Ardal Crefft yn y Bae

Popeth AM DDIM yn y Pentref Gwyddoniaeth!

Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dyma un o'r llefydd prysuraf ar y maes, yn lle poblogaidd iawn gyda theuluoedd a phobl ifainc. Bydd llawer o weithgareddau gwahanol yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sydd yn ardal Crefft yn y Bae. Gall disgyblion ysgol gael llu o brofiadau gwyddonol gwahanol, gydag arbenigwyr o brifysgolion Cymru'n dangos y ffordd. Bydd y gweithgareddau canlynol yn digwydd drwy'r dydd, bob dydd:

  • Ymweld â chwch ymchwil Prifysgol Caerdydd a mynd ar daith gerdded i ddysgu mwy
  • Gyda'r DVLA bydd modd rhaglennu gêm rasio neu ddeifio gyda Scratch
  • Bydd Lego'n ysbrydoli a datblygu adeiladwyr y dyfodol
  • Bydd modelau o gychod bychain ar gael ei chi eu hwylio
  • Gallwch weld pen-glin neu glun ffug
  • Bydd cystadlaethau peirianneg sifil llawn hwyl
  • Y cysylltiad rhwng cemeg a'r môr fydd dan sylw gyda'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol
  • Bydd modd mynd ar daith o amgylch coluddyn enfawr
  • Hefyd bydd modd profi'ch iechyd a'ch ffitrwydd gyda Phrifysgol Met Caerdydd
  • a llawer mwy!

Gwyl Llên Plant

Mae Gwyl Llên Plant yr Eisteddfod yn ardal Crefft yn y Bae. Mae llu o weithgareddau i oedrannau amrywiol drwy'r wythnos.

Ardal y Pierhead

Mae llawer o weithgarwch o amgylch ardal y Pierhead a'r Senedd
Adeilad y Pierhead fydd yn croesawu dysgwyr yr Eisteddfod
Shw'mae Caerdydd?!

Dyma hen "babell y dysgwyr" sydd eleni yn Adeilad y Pierhead. Bydd llawer o weithgareddau a gwybodaeth i rieni sy'n dysgu Cymraeg, neu eisiau dysgu Cymraeg. Dyma leoliad siop Cant a Mil am yr wythnos (yn y Bae yn lle 100 Whitchurch Road) os ydych chi eisiau prynu llyfrau, cardiau ac anrhegion.

Bydd perfformiadau theatr ar hyd a lled y maes drwy'r wythnos. A pheidiwch ag anghofio Carnifal y Môr bob nos am 10:30pm!

Sinemaes

Mae sinema'r maes yn dangos gwahanol ffilmiau drwy'r wythnos.

Llwyfan y Maes

Y tu allan i Ganolfan y Mileniwm bydd Llwyfan y Maes yn denu'r sylw drwy'r dydd a chyda'r nos. Mae lein yp o artistiaid difyr ac amrywiol drwy'r wythnos. Yma hefyd bydd digon o lefydd i chi gael bwyd.

Ardal yr Eglwys Norwyaidd

O amgylch yr Eglwys Norwyaidd bydd Caffi Maes B, Bar Syched, y Ty Gwerin, perfformiadau #Encore a stondin Ysgol Bro Edern!

Ty Gwerin

Yn ardal yr Eglwys Norwyaidd bydd cyfle i chi ymlacio a joio yn y Ty Gwerin. Mae artistiaid hen a newydd yn perfformio yno drwy'r wythnos.

Yn yr Eglwys Norwyaidd ein hunan bydd perfformiadau clasurol o bob math. Popeth am ddim, wrth gwrs.

Bydd stondin Ysgol Bro Edern hefyd wrth yr Eglwys Norwyaidd - dewch draw am baned a sgwrs!

Meini'r Maes

Byddwn ni'n cuddio cerrig arbennig, a addurnwyd gan ddisgyblion yr ysgol, ar hyd y maes drwy'r wythnos. Dychwelwch y cerrig i'r stondin, neu dynnwch luniau ohonynt, a thagio @BroEdern ar Twitter neu Instagram.

Meini'r Maes #joio
Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd Awst 2018 #joio
Created By
Ysgol Gyfun Bro Edern
Appreciate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.